— Rue Belliard/Belliardstraat 101 — 1040 Bruxelles/Brussel — BELGIQUE/BELGIË —

Tel. +32 22822211 — Fax +32 22822325 — Internet: http://www.cor.europa.eu

 

EN

 

ENVE-VI/004

Sesiwn rhif 114 o’r Cyfarfod Llawn, 13-14 Hydref 2015

 

 

 

 

 

BARN DDRAFFT



Datblygu potensial Ynni'r Môr
 (adroddiad rhag blaen)

 

 

 

 

 

_____________

 

Rapporteur: Rhodri Glyn Thomas (y DU/EA)

Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

_____________

 

 

 

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau:

 

3 p.m. (Amser Brwsel) ar 28 Medi, 2015. Rhaid cyflwyno unrhyw welliannau drwy gyfrwng y system ar-lein newydd ar gyfer cyflwyno gwelliannau (ar gael ym mhorthol yr Aelodau: www.cor.europa.eu/members). Mae'r holl welliannau a gyflwynwyd yn briodol i'r farn ddrafft hon cyn iddo gael ei ohirio o'r cyfarfod llawn ym mis Ebrill i'r cyfarfod llawn ym mis Mehefin yn parhau i fod yn ddilys.

 

Nifer y llofnodion angenrheidiol:  6

 

 

 

 

Yn unol â Rheol 55.5 o'r Rheolau Gweithdrefnol, ni chaniateir cyflwyno gwelliannau i'r datganiad esboniadol.

 

 


Dogfen gyfeirio

 

Barn rag-blaen

 


Barn ddrafft Pwyllgor y Rhanbarthau Ewrop – Datblygu potensial Ynni'r Môr

 

I.              ARGYMHELLION POLISI

 

Mae Pwyllgor y Rhanbarthau Ewrop

 

Pwysigrwydd ynni'r môr

 

AM1

 

1.             yn pwysleisio cyfraniad pwysig ynni'r môr i fodloni anghenion ynni'r dyfodol, nid yn unig yn yr Undeb Ewropeaidd ond yn fyd-eang; ac yn croesawu ei chynnwys fel un o bum maes blaenoriaeth y Strategaeth Twf Glas ac yn credu y gall yr UE chwarae rôl flaenllaw ym maes ynni'r môr;

 

 

2.             yn nodi, drwy ddarparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy dibynadwy a rhagweladwy, bod gan ynni'r môr y potensial i:

 

-         helpu i gyflawni ymrwymiadau Hinsawdd ac Ynni Adnewyddadwy yr UE;

-         cyfrannu at arallgyfeirio yn y cymysgedd ynni

-         cyfrannu at nodau sicrwydd ynni a helpu i leihau natur ysbeidiol y cyflenwad ynni;

-         creu swyddi a thwf, gan gyfrannu at adfywio ac arallgyfeirio porthladdoedd a chymunedau ynysoedd ac arfordirol yr UE, y mae rhai ohonynt mewn rhannau anghysbell o'r UE, yn ogystal â diwydiannau twristiaeth/hamdden a dyframaethu[1];

-         darparu ffynhonnell gyfoethog o gyfalaf deallusol, ymchwil, gwybodaeth, arloesi a gwella sgiliau (gan gynnwys ym maes peirianneg, profi, gweithgynhyrchu, cludo, gosod, gweithredu a chynnal a chadw cyfleusterau ynni'r môr, cyfleusterau porthladd);

-         darparu manteision amgylcheddol ehangach, er enghraifft amddiffynfeydd llifogydd arfordirol, ysgogi ecolegau morol newydd;

AM3

3.             yn nodi bod y ffaith bod ynni'r môr yn cynnwys cymaint o wahanol dechnegau yn golygu bod yn rhaid iddo gael ei ddatblygu ar nifer o wahanol lefelau ac mewn gwahanol gyd-destunau. Gallai'r UE fod yn chwaraewr byd-eang llwyddiannus yn y maes hwn o ystyried bod ganddo gynifer o ranbarthau arfordirol;

 

4.             yn nodi'r amcangyfrifon a nodir yn yng Nghynllun Mapio Ynni’r Môr Ewrop ar gyfer 2010-2050:

 

-         Gellid creu hyd at hanner miliwn o swyddi yn yr UE erbyn 2050, a 26,000 o swyddi uniongyrchol erbyn 2020

-         Gallai ynni'r môr fodloni rhwng 10 a 15% o'r galw am bŵer yn yr EU yn 2050 (awgrymir 100GW[2]), gan bweru 115 miliwn o gartrefi.

-         Gallai symud i ynni'r môr arwain at ostyngiadau sylweddol mewn allyriadau CO2 - 2.61 miliwn tunnell erbyn 2020 a 136.3 miliwn tunnell erbyn 2050

 

5.             yn cydnabod mai yng Nghefnfor yr Iwerydd y mae'r potensial uchaf ar gyfer ynni'r môr yn yr UE; fodd bynnag, dylid pwysleisio cyfraniad pwysig moroedd a basnau dŵr eraill yr UE, gan gynnwys Môr y Gogledd, y Môr Baltig, y Môr Udd, Môr y Canoldir;

 

6.             AM4 yn cydnabod potensial ynni môr glân i ynysoedd niferus yr UE; gallai gwneud y mwyaf o'r ynni hwn gyfrannu at ymreolaeth ynni mewn ynysoedd a rhanbarthau arfordirol ymylol [3] tra hefyd yn cynnig potensial enfawr o ran datblygu economaidd a chymdeithasol trwy greu cyflogaeth leol yn y cymunedau hyn, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer y porthladdoedd bach a chanolig eu maint niferus yn yr UE;

 

7.             yn pwysleisio bod datblygiad sector ynni'r môr o ddiddordeb i'r UE yn ei gyfanrwydd: ac nad yw cyfleoedd i fuddsoddi mewn ymchwil, gwybodaeth, sgiliau a datblygu, gweithgynhyrchu ac allforio cydrannau, datblygu cadwyni cyflenwi, yn gyfyngedig i ynysoedd ac ardaloedd arfordirol;

 

8.             yn pwysleisio pwysigrwydd dull cyfannol o ran ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae nifer o heriau sy'n wynebu ynni'r môr yn cael eu rhannu â ffynonellau eraill ynni ar y môr, er enghraifft, mynediad at y grid a chysylltedd, a datblygu sgiliau;

 

9.             yn nodi gwahanol fathau o ynni'r môr  (gweler pwynt 1 o'r Datganiad Esboniadol) : amrediad llanw (e.e. morlynnoedd llanw), ynni'r llanw, ynni'r tonnau, ynni graddiant halwynedd (salinity gradient energy), a throsi ynni thermol y môr (Ocean Thermal Energy Conversion - OTEC)[4];

 

10.         yn nodi bod y technolegau ar gyfer y gwahanol fathau hyn o ynni'r môr yn amrywio o ran lefel eu datblygiad, ac ar wahân i amrediad llanw, mae pob un yn y cam ymchwil a datblygu, sef cynlluniau peilot ar raddfa fach yn bennaf, ac nid oes datblygiadau ar raddfa fasnachol ar waith, nag unrhyw gonsensws eto ar y dechnoleg a ffefrir ar gyfer dyfeisiau;

 

 

11.         yn pwysleisio, fodd bynnag, bod trawsnewidwyr ynni'r tonnau ac ynni'r llanw yn denu diddordeb masnachol cynyddol ac y gallent ddod yn fwyfwy perthnasol yn y tymor canolig a'r hirdymor oherwydd eu gallu i gynhyrchu ynni mewn amrywiaeth eang o leoliadau.

AM5

 

Yr UE a'i ranbarthau ar flaen y gad ... am ba hyd?

 

12.         Yn nodi bod yr UE ar flaen y gad yn fyd-eang yn y sector ar hyn o bryd, gyda llu o weithgareddau ymchwil ar raddfa fach ar waith (gweler pwynt 2 o'r datganiad esboniadol), dros 500 o gwmnïau gweithredol yn sector ynni'r môr, a dros 50% o'r gweithgarwch ynni llanw byd-eang; mae rhai prosiectau hefyd wedi cwblhau'r agweddau ariannol[5];

AM7

13.         yn cydnabod mewn llawer o achosion bod yr ymdrechion i ddatblygu ynni'r môr yn dod o'r lefel islaw'r aelod-wladwriaethau, er enghraifft, Cernyw, Llydaw, Aquitaine, Pays de la Loire, Basse Normandie, Gwlad y Basg, Cantabria, Galicia, yr Alban, Cymru, Fflandrys, Rhanbarth Västra Götaland a mwy;

 

14.         yn nodi, fodd bynnag, er gwaethaf diddordeb diwydiannol ac ymwneud nifer o gwmnïau amlwladol a chyfleustodau ynni mewn gweithgareddau ymchwil a datblygu, nid yw maint y buddsoddiad yn cyfateb â'r buddsoddiad yn y sectorau ynni adnewyddadwy eraill ac ni chyrhaeddhwyd y targedau a ddeisyfwyd ar gyfer 2020;

 

15.         yn cydnabod, heb weithredu digonol, bod perygl i'r UE golli ei rôl o fod yn arweinydd byd-eang;

 

Heriau i ddatblygu ynni'r môr

 

AM8

16.         Yn tynnu sylw at nifer o rwystrau rhyng-gysylltiedig sy'n wynebu twf y sector y dylid eu goresgyn:

 

-         Technolegol

-         Ariannol

-         Gweinyddol/llywodraethu (gan gynnwys materion cydsynio/cynllunio ac argaeledd/mynediad at ddata)

-         Materion sy'n gysylltiedig â'r grid (cysylltedd)

-         Effaith amgylcheddol

 

17.         AM9 yn tanlinellu, er bod angen mynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'i gilydd, bod heriau technolegol ac ariannol yn arbennig o bwysig, oherwydd heb brawf o'r cysyniad na thechnoleg dibynadwy ni fydd y diwydiant hyfyw;

 

 

18.         yn mynegi ei bryder bod natur annatblygedig llawer o dechnoleg ynni'r môr, ynghyd â'r costau uchel sy'n gysylltiedig â phrofi'r dechnoleg ar y moroedd – yn enwedig mewn tywydd garw ac anrhagweladwy – yn rhwystr mawr i fuddsoddi ar raddfa fawr, ac felly'n llesteirio datblygiadau technolegol; mae hon yn broblem arbennig ar gyfer buddsoddwyr preifat gan fod prawf o gysyniad a graddfa'r dechnoleg yn ffactorau allweddol o ran cael gafael ar gyllid ac lleihad yn y costau fesul uned;

AM10

 

19.         yn ailadrodd pwysigrwydd ystyriaethau amgylcheddol a nodir yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol a'i farn yn ddiweddar ar y pwnc hwn[6]; yn cefnogi ymchwil pellach ac arloesedd i ddatblygu atebion ynni'r môr cynaliadwy ar gyfer gweithgareddau profi a defnyddio, oherwydd bod cyflwyno ynni i'r môr (sŵn, golau, gwres ac ymbelydredd) yn effeithio ar yr amgylchedd morol ac ar ecosystemau morol;

 

20.         yn nodi y dylid dysgu gwersi o'r sector gwynt a'r sector gwynt ar y môr, yn arbennig i gwmnïau a sefydliadau ymchwil gydweithio er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion ac ariannu, ac o ran safoni o fewn y diwydiant, sy'n angenrheidiol i wella cystadleurwydd cost.

 

Gweithredu ar lefel yr UE a gwell cydgysylltu/cydweithredu

 

21.         yn honni, o ystyried maint y buddsoddiadau sydd eu hangen i wireddu potensial sector ynni'r môr, bod camau cydgysylltiedig rhwng y gwahanol haenau o lywodraethau yn yr UE yn hanfodol, gan gynnwys rôl ganolog i'r Comisiwn Ewropeaidd, Banc Buddsoddi Ewrop, Senedd Ewrop, a sefydliadau eraill yr UE, gan weithio ar y cyd ag aelod-wladwriaethau, awdurdodau lleol a rhanbarthol (LRAs), sefydliadau ymchwil a phrifysgolion, cyrff anllywodraethol, y diwydiant newydd ei hun, a buddsoddwyr posibl;

 

AM11

22.         yn croesawu penderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd i sefydlu fforwm ynni'r môr, sydd â'r dasg o gyhoeddi Cynllun Mapio Ynni'r Môr erbyn hydref 2015 i lywio datblygiad y sector hwn ac mae'n bwriadu, yn sgil ei farn, sicrhau bod y cynllun mapio yn ystyried yn briodol y dimensiwn cryf lleol a rhanbarthol sydd ynghlwm â datblygiad y diwydiant newydd hwn;

 

23.         yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i ddatblygu Fforwm Ynni'r Môr yn llwyfan diwydiannol i hybu camau gweithredu allweddol a nodir yn Nghynllun Mapio Ynni'r Môr;

 

AM12

24.         yn galw am sefydlu targedau ar lefel yr UE ar gyfer ynni'r môr fel datganiad clir o fwriad er mwyn rhoi sicrwydd o ymrwymiad tymor hir i fuddsoddwyr;

 

25.         yn pwysleisio'r angen am ddull cydlynol ar gyfer yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r moroedd a'r cefnforoedd; yn dadlau y gallai datblygiad sector ynni'r môr fod yn ysgogiad i ddatblygu Polisi Diwydiannol Morol ar gyfer yr UE;

 

26.         yn croesawu'r ffaith bod Iwerddon a Phortiwgal wedi datblygu strategaethau cenedlaethol ar gyfer ynni'r môr; yn croesawu cynnwys ynni'r môr gan wyth aelod-wladwriaeth yn eu Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy: y DU, Iwerddon, Ffrainc, Portiwgal, Sbaen, y Ffindir, yr Eidal a'r Iseldiroedd; a mentrau mewn aelod-wladwriaethau eraill fel Denmarc a Sweden;

 

27.         yn galw ar aelod-wladwriaethau i roi arweiniad strategol a gwleidyddol i ddatblygu'r diwydiant hwn drwy roi cefnogaeth gryfach i brosiectau ymchwil ac arddangos ar eu tiriogaethau;

 

AM13

 

28.         yn ailadrodd ei alwad am greu Cymuned Gwybodaeth ac Arloesedd benodol ar gyfer yr Economi Las[7], oherwydd bod rôl hanfodol i ddatblygu sgiliau a throsglwyddo syniadau o ymchwil morol i'r sector preifat wrth ddatblygu ynni'r môr;

 

29.         yn pwysleisio'r angen i fanteisio ar enghreifftiau llwyddiannus presennol o fentrau a phartneriaethau[8], er mwyn gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth a ddatblygwyd yn fframwaith y Cynllun Technoleg Ynni Strategol (Strategic Energy Technology Plan - SET) a'i golofn ymchwil, sef Cynghrair Ymchwil Ynni Ewrop; h.y. cynnwys actorion y Cynllun SET, Dinasoedd Clyfar a Horizon 2020 wrth ddatblygu strategaethau ynni lleol a rhanbarthol;

 

30.         yn nodi'r angen i ddatblygu hyfforddiant proffesiynol ar gyfer sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gosod a chynnal a chadw gweithfeydd ynni'r môr sydd ar hyn o bryd yn nwylo cwmnïau olew a nwy, ac annog y sector i rannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd.

 

Cymorth gwladwriaethol

 

31.         Yn croesawu'r gymeradwyaeth cymorth gwladwriaethol a roddwyd ym mis Ebrill 2015 i gynllun ym Mhortiwgal i gefnogi prosiectau arddangos (capasiti wedi'i osod o 50MW) cynhyrchu ynni'r môr adnewyddadwy (ynni'r tonnau, ynni'r llanw) a thechnolegau gwynt ar y môr arloesol;

 

32.         yn nodi bod llawer o randdeiliaid yn disgrifio Canllawiau 2014 ar Gymorth Gwladwriaethol ar gyfer diogelu'r amgylchedd ac ynni fel rhai hyblyg i gefnogi prosiectau arddangos yn y maes hwn;

 

33.         yn galw am gynnal dadansoddiad technegol pellach gan arbenigwyr Cymorth Gwladwriaethol, ac iddynt weithio ar y cyd â'r Fforwm Ynni'r Môr i sicrhau bod y gyfundrefn cymorth gwladwriaethol yn sensitif i'r heriau penodol sy'n wynebu'r sector hwn, ac y bydd yn galluogi buddsoddiadau cyhoeddus mawr, er enghraifft mewn seilwaith grid a phrosiectau cyfnod peilot cyn-fasnachol ar raddfa fawr.

 

Rhanbarth Macro yr Iwerydd

 

34.         yn galw ar newid pwyslais yn rhaglenni ariannol yr UE sy'n cefnogi cydweithredu tiriogaethol, gan gynnwys Rhaglen Drawswladol Ardal yr Iwerydd, fel eu bod yn cefnogi datblygiad ynni'r môr;

 

35.         yn argymell y dylid rhoi ystyriaeth gref i ddatblygu rhanbarth Macro yr Iwerydd a fyddai'n canolbwyntio ar ddatblygu ynni'r môr; byddai dull o'r fath yn rhoi ffocws clir i'r pum aelod-wladwriaeth a gwledydd/rhanbarthau yn y maes hwn i gydweithredu, a gallai arwain at Strategaeth Forol Ddiwydiannol gydlynol ar gyfer Rhanbarth Macro'r Iwerydd, a fyddai'n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a chysylltedd;

 

36.         yn argymell y dylid datblygu strategaethau/technolegau priodol ac wedi'u teilwra ar gyfer yr holl fasnau môr gwahanol, gan fanteisio ar brofiadau/datblygiadau uwch-dechnolegau presennol i ranbarthau sydd â llai o botensial/potensial gwahanol o ran ynni morol;

 

Mynd i'r afael â heriau ariannol

 

37.         Yn dadlau bod cymorth cyhoeddus sylweddol, gan gynnwys drwy bartneriaethau cyhoeddus-preifat arloesol yn hanfodol ar gyfer datblygu ynni'r môr;

 

38.         yn cydnabod rôl hanfodol dulliau cymorth presennol Banc Buddsoddi Ewrop[9]; fodd bynnag, yn pwysleisio'r angen am ddulliau newydd ac arloesol ar lefel yr UE a chreu amgylchedd mwy ffafriol ar gyfer cefnogi buddsoddiadau mewn technolegau ynni arloesol sydd â mwy o "risg" ynghlwm â hwy, yn enwedig rhai sy'n defnyddio technoleg ynni'r môr;

 

39.         yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn cysylltiadau, yn enwedig rhwng Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau, uwchraddio'r seilwaith trawsyrru er mwyn cynyddu eu gallu i ymdopi â chynhyrchu trydan adnewyddadwy, buddsoddi mewn gridiau dosbarthu, ymestyn gridiau i ardaloedd anghysbell yn ogystal â datblygu a gweithredu atebion grid deallus;

 

40.         yn galw ar Fanc Buddsoddi Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd i roi blaenoriaeth i ddefnyddio'r gronfa newydd - Cronfa Ewrop ar gyfer Buddsoddiad Strategol (EFSI) - i gefnogi buddsoddiadau yn sector ynni'r môr, gan gynnwys edrych ar sut y gellir defnyddio'r gronfa hon i gefnogi datblygu'r grid a chysylltedd;

 

41.         yn croesawu'r pwyslais cynyddol ar ynni adnewyddadwy morol mewn nifer o strategaethau arbenigol clyfar (Smart Specialisation Strategies - S3); yn croesawu lansio'r platfform arbenigo deallus Ewrop ar ynni (Smart Specialisation Platform on Energy), ac yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod hwn yn ategu gwaith Fforwm Ynni'r Môr;

 

42.         yn croesawu cynnwys blaenoriaeth ynghlych buddsoddiadau mewn ynni morol yn y Rhaglenni Gweithredol Rhanbarthol;

 

43.         yn pwysleisio pwysigrwydd cryfhau'r cysylltiad rhwng polisi ynni a pholisi cydlyniant yr UE ac yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i ddarparu manylion am y flaenoriaeth a roddir i ynni'r môr yn y Rhaglenni Gweithredol Rhanbarthol ar gyfer yr ESIFs ar gyfer 2014-2020 ac i ddarparu dadansoddiad o ba ranbarthau sy'n rhoi blaenoriaeth i ynni'r môr yn eu strategaethau S3.

 

44.         yn croesawu penderfyniad y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref 2014 i adnewyddu'r rhaglen NER300, ac yn nodi y bydd prosiectau ar raddfa fach  yn gymwys o hyn ymlaen hefyd[10];

 

AM14

 

45.         Yn galw am bris sefydlog uwch ar gyfer allyriadau CO2 a dyraniadau ariannu uwch ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy (arloesol) o dan y cynllun newydd;

 

46.         yn croesawu prosiectau fel Ocean Energy ERA-NET sy'n anelu i gydgysylltu gweithgareddau rhwng aelod-wladwriaethau a rhanbarthau er mwyn cefnogi ymchwil ac arloesedd yn y sector, ac yn edrych ymlaen at weld llu o brosiectau ynni'r môr yn cael cefnogaeth o dan Horizon 2020 a rhaglenni eraill fel Erasmus +;

 

47.         yn ailadrodd ei alwad i roi blaenoriaeth wleidyddol gryfach i greu synergeddau rhwng cyllidebau yr UE, yr aelod-wladwriaethau a'r is-wladwriaethau (awdurdodau lleol a rhanbarthol)[11] i gefnogi buddsoddiadau allweddol o bwysigrwydd Ewropeaidd, fel ynni'r môr;

 

Materion amgylcheddol a chydsynio

 

48.         Yn honni y gellir datblygu ynni'r môr mewn ffordd sy'n gwella'r amgylchedd naturiol;

 

49.         yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau ymgysylltiad awdurdodau rhanbarthol, sefydliadau amgylcheddol a chyrff anllywodraethol eraill sy'n perthyn i Fforwm Ynni'r Môr a mentrau strategol eraill ar lefel yr UE, ac annog aelod-wladwriaethau, LRAs a'r diwydiant i weithio gyda chyrff o'r fath, yn llawn er mwyn sicrhau bod y diwydiant newydd hwn yn cael ei ddatblygu mewn modd cynaliadwy, gan leihau'r effaith ar yr amgylchedd;

 

50.         yn tanlinellu rôl hanfodol bwysig Cynllunio Gofodol Morol (Maritime Spatial Planning - MSP) i gefnogi datblygiad y diwydiant ynni'r môr (a morol), gan fod hyn yn darparu dull o ddwyn ynghyd gwahanol ddefnyddwyr y môroedd/cefnforoedd (y sector ynni, trafnidiaeth forol, dyframaethu, pysgota, hamdden a chadwraeth natur) i ymgysylltu mewn deialog, cyfnewid gwybodaeth a gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig ynghylch y defnydd o ofod morol, i helpu i osgoi gwrthdaro rhwng sectorau, i ddatblygu synergeddau a lleihau'r effeithiau negyddol ar ecosystemau; annog aelod-wladwriaethau a LRAs sy'n ymwneud â'r broses o baratoi Cynlluniau Gofodol Morol i gynnwys datblygu ynni'r môr yn y broses hon;

 

AM15

51.         yn pwysleisio pwysigrwydd symleiddio gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer cydsynio a chynllunio ar lefel awdurdodau lleol a rhanbarthol a’r lefel genedlaethol, ac amlygu arfer da cydnabyddedig yn yr Alban yn hyn o beth, lle maent wedi cyflwyno cynllunio morol sectorol, ymchwil amgylcheddol a rhaglenni monitro strategol, sef corff cydsynio a chydsynio canllawiau mewn un lle;

 

52.         yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynediad at ddata a rhannu gwybodaeth, er mwyn osgoi dyblygu, lleihau costau dechrau gweithrediadau, ac fel rhan o fudd ehangach y cyhoedd o ran deall yr amgylchedd morol ac effaith bosibl datblygiadau ar eco-system y môr;

 

AM16

53.         yn tanlinellu pwysigrwydd deall, monitro ac ymchwilio'r amgylchedd ac ecoleg morol, er mwyn llunio set data mwy cynhwysfawr nag sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys cynnal astudiaethau effaith amgylcheddol helaeth, gan ddefnyddio'r dull gweithredu sy'n seiliedig ar ecosystemau i ystyried bioamrywiaeth y rhanbarthau hyn, a mesur effeithiau posibl y dyfeisiau ar yr amgylchedd morol.

 

Ymwybyddiaeth a chyfathrebu

 

54.         Yn credu y dylai cyfathrebu manteision a photensial ynni'r môr fod yn flaenoriaeth allweddol wrth geisio ennill "calonnau a meddyliau" dinasyddion yr UE;

 

55.         yn tanlinellu pwysigrwydd cynnal deialog a chyfathrebu â'r holl randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys pysgotwyr, y sector dyframaethu a defnyddwyr eraill y môr;

 

56.         yn tanlinellu'r rôl y gall y Comisiwn Ewropeaidd a Phwyllgor y Rhanbarthau eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o ynni'r môr, er enghraifft, drwy Wythnos Ynni Cynaliadwy, Wythnos Diwrnodau Agored y Dinasoedd a'r Rhanbarthau, cyfamod y meiri, ac o bosibl, drwy sefydlu cynlluniau newydd;

 

 

Brwsel,

 

 

 

*

 

*          *

 

 

 

 DS:     Datganiad Esboniadol dros y ddalen.

 


 

 

Datganiad Esboniadol ar brif dechnolegau ynni'r môr ac ar brif brosiectau ynni'r môr

 

1.Rhagor o fanylion ar brif dechnolegau ynni'r môr

 

-         Amrediad llanw: ynni a gynhyrchir gan y gwahaniaeth yn lefel y môr rhwng llanw uchel a llanw isel, gan ddefnyddio'r un egwyddorion a thechnoleg tebyg i ynni dŵr confensiynol.  Nid peth newydd yw cynhyrchu pŵer drwy amrediad llanw, gyda sawl cynllun morglawdd llanw yn weithredol ledled y byd, y cyntaf yn La Rance yn Llydaw, a agorwyd ym 1966, sy'n dal yn weithredol (EDF) gyda chapasiti wedi'i osod o 240MW. Mae prosiectau arfaethedig mwy diweddar wedi canolbwyntio ar lagwnau llanw, sy'n defnyddio yr un dechnoleg tyrbin ond nad ydynt yn rhychwantu aber cyfan, y gellir eu lleoli'n gyfan gwbl ar y môr, a gyda llawer llai o effaith amgylcheddol na morgloddiau llanw.

 

-         Ynni llanw: a gynhyrchir gan rymoedd disgyrchiant yr haul a'r lleuad, sydd, ar y cyd â chylchdro'r ddaear ar ei hechel, yn achosi symudiadau'r moroedd a'r cefnforoedd. Mae trosglwyddwyr ynni'r llanw yn tynnu ynni cinetig o'r llif llanw, a thrwy symudiad mecanyddol (rotor neu ffoil) maent yn cynhyrchu ynni trydanol. Cafwyd nifer o brosiectau arddangos ynni'r tonnau ar raddfa fach ond hyd yn hyn ni sefydlwyd unrhyw areau ar raddfa fasnachol ac oherwydd nad oes eto gonsensws ar y dyfeisiau technolegol a ffefrir.

 

-         Ynni'r tonnau: hwn yn ffurfio wrth i ynni cinetig y gwynt drosglwyddo i arwyneb uchaf y môr. Mae uchder a chyfnodau'r tonnau sy'n deillio o hyn yn amrywio yn ôl llif yr ynni rhwng y gwynt â wyneb y môr. Trosglwyddwyr ynni'r tonnau sy'n echdynnu'r ynni a gellir eu dynlunio ar gyfer eu gweithredu mewn dyfnder gwahanol. Mae dyluniad y dyfeisiau yn dibynnu ar leoliad y ddyfais a nodweddion arfaethedig yr adnoddau. Fel gydag ynni'r llanw bu llawer o waith ymchwil, gan gynnwys treialu llawer o ddyfeisiau gwahanol, a hynny mewn cynlluniau peilot ar raddfa fach, ac yn yr un modd, nid oes consensws ar y dechnoleg a ffefrir.

 

-         Ynni graddiant halwynedd: ynni a gynhyrchir gan y gwahaniaeth mewn crynodiad halen rhwng dŵr croyw â dŵr heli. Amcangyfrifir bod ynni gwerth 2000 TWh y flwyddyn ar gael, sy'n golygu bod potensial enfawr ar gyfer y math yma o ynni pe gellid ei ddal yn effeithiol. Mae cost bosibl yr ynni o'r ffynhonnell hon yn uwch na'r rhan fwyaf o'r techolegau ynni'r dŵr mwyaf traddodiadol, ond mae'n cymharu'n dda â mathau eraill o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir eisoes mewn gweithfeydd. Yn Ewrop mae'r ymchwil wedi'i ganolbwyntio yn Norwy a'r Iseldiroedd, gyda chynlluniau peilot bach wedi'u profi yno. Fel gydag ynni'r tonnau ac ynni'r llanw nid yw'r dechnoleg hon wedi'i phrofi eto, ac mae angen rhagor o waith ymchwil yn y maes.

 

-         Trosi Ynni Thermol y Môr (Ocean Thermal Energy Conversion - OTEC): mae'n manteisio ar y gwahaniaeth yn nhymheredd y dŵr rhwng y cefnfor dwfn a dyfroedd trofannol cynnes wyneb y môr i gynhyrchu ynni. Mae amrywiaeth o ddulliau gwahanol ar gael i gyflawni hyn. Mae OTEC yn gweddu'n naturiol i foroedd a chefnforoed trofannol a chyhydeddol. Mae mwy na 100 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd â'r potensial i allu gweithredu OTEC fel rhan o'u cymysgedd ynni, gan gynnwys nifer o diriogaethau tramor Ewropeaidd. Amcangyfrifon o'r potensial: sylfaen bresennol wedi'i bwysoli o 150GW, gyda marchnad flaenoriaeth o 60GW, yn dod i'r amlwg gyntaf gydag ynysoedd ac ardaloedd ynysig am gyfanswm o 9GW; erbyn 2030, dylai fod 1.5GW o OTEC wedi'i osod.

 

O wybodaeth sydd ar gael ar wefan Ocean Energy Europe:

http://www.oceanenergy-Europe.eu/index.php/policies/Technologies

 

2.Rhai enghreifftiau o brosiectau ynni'r môr

 

Enghreifftiau dangosol yn unig yw'r rhain;

 

§  Y DU (Cymru): cynlluniau i ddatblygu chwe lagwn llanw, gyda phedwar ohonynt yng Nghymru - a'r mwyaf datblygedig yw morlyn llanw Abertawe (320MW). Amcangyfrif o'r ynni a gynhyrchir: 30TWh y flwyddyn gyda budd economaidd o £2.65 biliwn;

 

§  Y DU (yr Alban): Prosiect ynni llanw MeyGen yng nghulfor mewnol y Pentland Firth – cam 1a 6MW; grid tyrbinau ynni'r llanw cymunedol cyntaf yn Ynysoedd Shetland;

 

§  Ffrainc (Llydaw): Morglawdd La Rance, yr orsaf pŵer llanw gyntaf yn y byd - 240MW ac allbwn blynyddol o 600GWh; Llydaw yn gartref i 50% o sgiliau ymchwil a datblygu sectorau morwrol Ffrainc, gan France Energies Marine (sefydliad ymchwil) yn Brest, ac ymrwymiad i sefydlu dau brosiect arddangos, pedair fferm beilot, dau safle cynhyrchu a fydd yn defnyddio pum math o dechnoleg ynni'r môr (ac ynni gwynt ar y môr) oddi ar arfordir Llydaw;

 

§  Ffrainc (Llydaw): – 'Pôle Mer Bretagne Atlantique'

 

§  Ffrainc (Ynys Réunion): nifer o brosiectau ynni morol gan gynnwys prototeip tir OTEC;

 

§  Sbaen: Ynni llwyfan morol Biscay (bimep), Lemoiz. Capasiti: 20 MW

 

§  Portiwgal: WindFloat, Aguçadoura. Capasiti: 2.0MW

 

§  Yr Eidal: prosiectau ar raddfa fach yn cynnwys nifer o brosiectau a noddir gan ENEL Green Power e.e. 40 South Energy, Ynys Elba 0.1MW, Don; Pisa, 0.1MW, y tonnau; Wave4energy ar ynys Pantelleria – 0.1MW.

 

§  Iwerddon: Safle prawf ynni'r tonnau, Bae Galway. Capasiti: 5MW

 

§  Denmarc: Angorfeydd ar gyfer trosglwyddwyr ynni'r tonnau (2014-2017); Wavestar Hanstholm - 0.25MW, tonnau.

 

§  Yr Iseldiroedd: Prosiect trosi ynni thermol yn Curacao yn y môr Caribî; Ynni Bluewater Texel, yr Iseldiroedd - 0.2MW, llif llanw.

 

§  Gwlad Belg: Parth consesiwn Mermaid ar gyfer ynni ar y môr, ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, a fydd yn anelu at osod 20MW o ynni'r tonnau (caniatâd i gynhyrchu 5MW ar hyn o bryd); cyfleuster cenedlaethol yn Ostend ar gyfer profion môr;

 

§  Sweden: Sotenas, 1 MW, tonnau; Ada, 0.4MW, tonnau.

 

Gweler hefyd http://www.ocean-energy-systems.org/ocean-energy-in-the-world/

II.           GWEITHDREFN

 

Teitl

 

Datblygu potensial ynni'r môr

Cyfeiriad(au)

Barn rag-blaen

Sail gyfreithiol

Erthygl 307(4) TFEU

Sail weithdrefnol

Rheol 41(b)(ii) o'r Rheolau Gweithdrefnol

Dyddiad cyfeirio o'r Cyngor/Senedd Ewrop/Dyddiad llythyr y Comisiwn

 

Dyddiad penderfyniad y Bureau/Llywydd

18 Mawrth 2015

Y Comisiwn sy'n gyfrifol

Y Comisiwn yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd ac Ynni (ENVE)

Rapporteur

Rhodri Glyn Thomas (y DU/EA)

Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Dadansoddiad

17 Ebrill 2015

Trafodwyd yn y comisiwn

30 Mehefin 2015

Dyddiad y'i mabwysiadwyd gan y comisiwn 

30 Mehefin 2015

Canlyniad y bleidlais yn y comisiwn

(mwyafrif, unfrydol)

Mwyafrif

Dyddiad y'i mabwysiadwyd gan y cyfarfod llawn 

Wedi'i drefnu ar gyfer 13/14 Hydref 2015

Barnau blaenorol y Pwyllgor

Barn Pwyllgor y Rhanbarthau ar ynni adnewyddadwy: chwaraewr o bwys yn y farchnad ynni Ewropeaidd[12]

 

Barn Pwyllgor y Rhanbarthau ar Dwf Glas: cyfleoedd ar gyfer twf morol cynaliadwy[13]

 

Barn Pwyllgor y Rhanbarthau ar yr Economi Las: gwireddu potensial ein moroedd a'n cefnforoedd ar gyfer swyddi a thwf[14]

Dyddiad yr ymgynghoriad monitro sybsidiaredd

n/a

 

_____________

 



[1]              OJ C 62, 2.3.2013, p. 47. Gweler, er enghraifft, morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe.

[2]              Prosiect SI Ocean

[3]              Ocean energy converters demonstration: e.e. yr Ynysoedd Dedwydd, La Réunion a Martinique.

[4]              Ffynhonnell: Ocean Energy Europe

[5]              Er enghraifft, prosiect Meygen.

[6]              ENVE-VI-001.

[7]              OJ C 19, 21.1.2015, p. 24.

[8]                      Rhaglenni ar y cyd, JPI Oceans, SI Oceans, Seas-ERA, Ocean Energy ERA-NET.

[9]              Banc Buddsoddi Ewrop – cyd-raglenni sefydliadau'r UE: Cronfa Ewrop 2020 ar gyfer Ynni, Newid yn yr Hinsawdd a Seilwaith, Cronfa Effeithlonrwydd Ynni Byd-eang ac Ynni Adnewyddadwy a Chronfa Effeithlonrwydd Ynni Ewrop, Cynllun Technoleg Ynni Strategol Ewrop (SET-Plan).

[10]             Mae'r rhaglen NER300 yn cefnogi mentrau i arddangos technolegau storio cipio carbon amgylcheddol diogel a thechnolegau ynni adnewyddadwy arloesol.

[11]             OJ C 62, 2.3.2013, p. 32.

[12]             OJ C 62, 2.3.2013, p. 51.

[13]             OJ C 62, 2.3.2013, p. 47.

[14]             OJ C 19, 21.1.2015, p. 24.